Rosalie Schweiker – Sgwrs Artist

Yn cael ei gynnal gan g39 a’r artist ar Zoom

Dydd Gwener 8fed o Fai 6pm – 7pm

Wedi ei rhaglennu i’w gyflwyno’n bersonol yn wreiddiol, mae Rosalie Schweiker wedi datblygu dull newydd o gyflwyno sgwrs yn ystod y rhuthr i symud ar-lein. Rydym wrth ein boddau cael croesawu Rosalie yma ar gyfer ein digwyddiad cyhoeddus cyntaf ers i ni gau ein drysau ym mis Mawrth o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws. www.rosalieschweiker.info

Ymunwch â Rosalie ar gyfer sgwrs Zoom awr o hyd, gydag ymyrraeth ar gyfer ychydig o ymarferiadau ymestyn gan Leonie Cronin. Disgwyliwch ystyriaeth ysgafn am yr hyn sy’n digwydd yn y celfyddydau ar hyn o bryd, hanesion torcalonnus o waith sydd wedi peidio â bod a rhai datblygiadau cyffrous ar gyfer gweithwyr y celfyddydau.

Am ddim.

Mae angen archebu lle. Ymunwch â’r sgwrs ar Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/104041183982