12/08/21, 18.00-20.00
Archebu o flaen llaw yn hanfodol. Archebwch le ar Eventbrite yma >>
Booking is essential. Book through Eventbrite here>>
Join us for a relaxed conversation between Mel Brimfield and Rebecca Moss who has produced three new films for the SurveyII exhibition. Herd Mentality, Home Improvement and Pancake are a series of short videos which document absurdist scenarios performed to camera by the artist. These site-responsive gestures build on the artist’s use of humour and anti-monumental interventions to reflect on the world around us.
Rebecca critically examines heroic narratives through absurdist gestures. Her videos speculate upon ecological instability, humanity’s relationship to the natural world, and how a feminist perspective could transform our position on the planet. She is also interested in how slapstick performance can speak to power through humour.
It’s always a pleasure to welcome back Mel Brimfield, who taught Rebecca at the RCA and is currently exhibiting From This World, to That Which Is to Come at The Tetley, Leeds. Her interdisciplinary and collaborative practice is rooted in scripted performance, incorporating live work, moving image, staged audio, installation and drawing. Operating at the intersection of theatre, live art and film, Brimfield’s work aims to bring audiences for the arts together and erode historic distinctions between creative fields.
Both artists use differing formats and genres, humour and awkwardness to appraise and disrupt received cultural hierarchies. The talk will be informal and held on Zoom.
Ymunwch a ni am sgwrs hamddenol rhwng Mel Brimfield a Rebecca Moss sydd wedi cynhyrchu tair ffilm newydd ar gyfer arddangosfa Survey II. Mae Herd Mentality, Home Improvement a Pancake yn gyfres o fideos byr sy’n dogfennu senarios abswrdaidd wedi’u perfformio i’r camera gan yr artist. Mae’r ystumiau hyn, sy’n ymateb i’r safle, yn adeiladu ar ddefnydd yr artist o hiwmor ac ymyriadau gwrth-goffaol i fyfyrio ar y byd o’n cwmpas.
Mae Rebecca Moss yn archwilio naratifau arwrol yn feirniadol drwy ystumiau abswrdaidd. Mae ei fideos yn damcaniaethu ar ansefydlogrwydd ecolegol, perthynas dynoliaeth â’r byd naturiol, a sut allai persbectif ffeministaidd drawsnewid ein safbwynt ar y blaned. Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn sut all perfformiad slapstic gyfarch grym drwy hiwmor.
Mae’n bleser cael estyn croeso unwaith eto i Mel Brimfield, a bu’n dysgu Rebecca yn yr RCA ac sydd ar hyn o bryd yn arddangos From This World, to That Which I to Come yn The Tetley, Leeds. Mae ei hymarferiad rhyngddisgyblaethol a chydweithiol gyda’i wreiddiau mewn perfformiadau wedi’u sgriptio, gan gynnwys gwaith byw, delweddau symudol, sain wedi ei lwyfannu, gosodwaith a darlunio. Yn gweithredu ar y gyffordd o theatr, celf byw a ffilm, mae gwaith Brimfield yn anelu i uno cynulleidfa’r celfyddydau ac i erydu gwahaniaethau hanesyddol rhwng meysydd creadigol.
Mae’r ddwy yn defnyddio gwahanol fformatau a genres, hiwmor a lletchwithdod i gloriannu a tharfu ar hierarchaethau diwylliannol safonol. Bydd y sgwrs yn anffurfiol trwy Zoom.