Open Call Jerwood UNITe 2022 Galwad Agored

Image credit_ Yewande YoYo Odunubi_Gestures in Blue and Black 2021

In 2022 we are pleased to offer 5 artists support on our UNITe Programme 2022.

Details:         A nine-week residency programme
Eligibility:         Early-career visual artists working in any media
Closing date:         1st February 2022
Interviews (online):     17th February 2022
Programme Dates:       W/C 7th March 2022 to W/C 9th May 2022 (9 weeks)

Each artist will receive: 
A fee of £1,750.00

Artists are also offered:
Accommodation and travel costs for artists based over 90 mins from Cardiff by car.
Costs towards any specific access requirements

//

Yn 2022 rydym yn falch o gynnig cefnogaeth i 5 artist ar ein Rhaglen UNITe 2022.

Manylion: Rhaglen breswyl naw wythnos
Cymhwyster: Artist gweledol ar gychwyn gyrfa yn gweithio mewn unrhyw gyfrwng (gweler isod)
Dyddiad cau: 1af Chwefror 2022
Cyfweliadau (ar-lein): 17eg Chwefror 2022
Dyddiadau’r rhaglen: Wythnos sy’n dechrau 7fed Mawrth 2022 tan yr wythnos sy’n
dechrau 9fed Mai 2022

Bydd pob artist yn derbyn:
Ffi o £1,750.00
Y rhaglen fel y nodir isod

Bydd artistiaid hefyd yn cael cynnig:
Costau llety a theithio i artistiaid sy’n byw dros 90 munud (mewn car) i ffwrdd o Gaerdydd
Costau tuag at unrhyw anghenion hygyrchedd penodol

//

UNITe is a nine-week artist studio residency programme based at g39 for artistic  development, experimentation, research, creative discussions, and more. In 2022 we are pleased to present Jerwood UNITe in collaboration with Jerwood Arts, an independent funder dedicated to supporting outstanding artists,  curators and producers to develop and thrive. .

At least two of the places will be offered to an artist from a Black, Asian or ethnically diverse  background. We will also give preference to applications from artists from lower Socio-Economic backgrounds. We have adopted a policy of Positive Action to ensure g39’s opportunities benefit  people who may have been excluded or discriminated against or who otherwise face the  consequences of past or present discrimination or disadvantage.

For full information and details on how to apply download the Application Pack

Large Print Version

//

Rhaglen breswyl naw wythnos mewn stiwdio artistiaid yw UNITe. Wedi’i lleoli yn g39, mae’n gyfle ar gyfer datblygiad artistig, arbrofi, ymchwilio, trafodaethau creadigol a rhagor.

Rydym yn falch o gyflwyno Jerwood UNITe yn 2022, mewn cydweithrediad â Jerwood Arts, cyllidwr annibynnol sy’n ymrwymo i gefnogi artistiaid, curaduron a chynhyrchwyr rhagorol i ddatblygu a ffynnu.

Bydd o leiaf dau o’r lleoedd yn cael eu cynnig i artist o gefndir du, Asiaidd neu ethnig amrywiol. Byddwn hefyd yn ffafrio ceisiadau gan artistiaid o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is. Rydym wedi mabwysiadu polisi gweithredu cadarnhaol i sicrhau bod cyfleoedd g39 o fudd i bobl a allai fod wedi cael eu gwahardd neu brofi gwahaniaethu yn eu herbyn neu sydd fel arall yn wynebu canlyniadau gwahaniaethu neu anfantais yn y gorffennol neu’r presennol.

Gael gwybodaeth lawn a manylion ar sut i wneud cais, lawrlwythwch y Pecyn Cais

Fersiwn Print Bras