Gweithdy argraffu gyda John Abell a Paul Eastwood
Awst 6ed 10.30 – 3.00
Bydd y gweithdy yn dechre gyda taith o gwmpas y gwaith yn yr arddangosfa ‘Dim ond geiriau (ydi iaith) yn Bay Art. Mae gan John Abell a Paul Eastwood waith yn yr arddangosfa, a bydd rhain yn cael eu defnyddio fel man cychwyn i’r gweithdy. Mae’r ddau artist yn ddwyieithog a bydd iaith yn chware rhan ganolog yn y gweithdy.
Byddwch yn dysgu nifer o dechnegau argraffu a cewch y deunydd i gynhyrchu eich printiadau eich hunain. Bydd y gweithdy yn cynig nifer o syniadau am ffyrdd i gychwyn eich gwaith yn syml, y tu allan i stiwdio argraffu – fydd yn cynnwys argraffu bloc a argraffu ‘relief’.
Croesawir pob oedran.
Mae Paul Eastwood yn artist o Wrecsam, sydd yn ymchwilio y syniad o gelf fel ffurf o gynhyrch gymdeithasol a dull o ddweud stori. Yn ddiweddar bu yn datblygu ‘Dyfodiaith’ sydd yn archwiliad creadigol o gyd-destyn diwylliannol yr iaith Gymraeg mewn cymhariaeth a ieithoedd lleiafrifol eraill a siaredir dros y byd.
Mae John Abell yn beintiwr ac yn argraffwr sydd yn arbennigo mewn argraffiadau bloc pren enfawr. Mae ei ddychymyg creadigol yn cynwys nifer o gymeriadau a thirweddau mytholegol sydd yn dod o bob cyfnod mewn amser. Mae geiriau yn rhan o wead ei ddarluniau.
10.30- 11.30 cyfarfod yn Bay Art i weld yr arddangosfa, cael tê neu goffi, a thrafod y gwaith.
11.30 – 1.00 darlunio a dechrau creu print.
1.00- 1.45 Cinio (yn Bay Art, neu gaffi neu frechdanau tu allan).
1.45 – 2.30 datblygu gwaith y bore.
2.30 – 3.00 gosod y gwaith allan a thrafod yr ymatebion unigol.