Sesiynau am ddim gyda ni, artistiaid gwadd, neu guraduron yw One-to-Ones. Mae pob sesiwn oddeutu 45 munud o hyd, sydd fel arfer digon o amser i ffocysu ar eich prif amcanion. Mae’r sesiynau yn canolbwyntio ar ymarferiad. Mae’n gyfle i drafod gwaith, derbyn adborth a/neu arsylliadau ac mae’n gallu cynnig seinfwrdd ar gyfer syniadau. Rydym yn ceisio eich paru ac artistiaid fel bod y sesiynau o fudd i chi. I alluogi hyn rydym yn gofyn i chi anfon ychydig mwy o wybodaeth atom ni.
Mae’r sesiynau yn gyfyngedig, ond mae’n rhywbeth bydd yn digwydd yn fisol.